Bydd y plant yn
cymryd rhan mewn prosiectau cadwraeth go iawn. Gellir defnyddio'r ddau
brosiect i hyrwyddo nifer o sgiliau allweddol, sgiliau sylfaenol ac
agweddau ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn ogystal â bod yn
brofiadau dymunol i'r plant yn eu hamgylchedd lleol. Y tudalennau hyn
fydd ar gael yn gyntaf, (byddant ar gael yn ddiweddarach hefyd) i athrawon
gael arfer gyda'r prosiectau, a gwneud unrhyw waith cynllunio angenrheidiol
neu gasglu deunyddiau.