YSGOLION UWCHRADD
Mae'r
prosiect ar gyfer Ysgolion Uwchradd yn gofyn am wybodaeth am ledaeniad
dau blanhigyn ymledol, Llysiau'r Dial (Polygonum cuspidatum)
a'r Ffromlys Chwarennog (Impatiens glandulifera).
Fel
y Rhododendron ponticum – sydd i'w weld yn benodol mewn rhannau
o Ogledd Cymru – cyflwynwyd y planhigion hyn mewn gerddi yn wreiddiol,
a heb unrhyw ysglyfaethwyr naturiol neu blanhigion cystadleuol ffyrnig
eraill yn y wlad hon, mae'r amodau wedi bod yn addas iddynt ledaenu
i'r gwyllt.
Rydym
yn gofyn i bob ysgol uwchradd – yn enwedig y rhai hynny yn Sir Gaerfyrddin
a Cheredigion – i fapio unrhyw ardaloedd o Lysiau'r Dial a Ffromlys
Chwarennog o fewn 2 filltir i'r ysgol. Bydd ffurflenni ar gael i'w llwytho
i lawr, yn seiliedig ar ffurflen a luniwyd gan Gymdeithas Fotaneg Ynysoedd
Prydain, sy'n cynnal arolwg ar Lysiau'r Dial yng Nghernyw. Dylid pwysleisio
(yn enwedig i'r plant) bod canlyniad negyddol mor werthfawr â
chofnod positif.