Mae gan Fiona
Lyczynska Radd dobarth cyntaf mewn Gwyddoniaethau Biolegol
a PGCE. Mae ganddi brofiad o ddysgu mewn ysgolion uwchradd a dysgu
anghenion arbennig.
Mae'r prosiect hwn
wedi'i gwblhau fel rhan o gwrs ôl-raddedig Amlgyfryngau yn
Athrofa Addysg Uwch Abertawe. Byddai'n gwerthfawrogi ymateb ynglŷn
â chynllun y prosiect a'r tudalennau ar y we, gan athrawon
a'r plant a fu'n cymryd rhan.
Mae Fiona yn hunangyflogedig
ac yn derbyn rhagor o brosiectau amlgyfrwng ac ar y we ar gyfer
ysgolion, cholegau a'r gymuned ar hyn o bryd.
|
Mae Janet
C. Moseley MSc yn athrawes gymwys â phrofiad blaenorol o addysgu
mewn ysgol uwchradd yn Swydd Durham a Chanolfan Astudiaethau Coedwigaeth
yng Nghymru.
Mae wedi parhau
i ymwneud â Chadwraeth ers iddi weithio i'r Warchodfa Natur yn
y 1960au a chaiff ei chyflogi ar hyn o bryd fel Cyd-gysylltydd
Cadwraeth yn Adran Arddwriaeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
|