Cyn cychwyn
1. Mae angen
i chi wybod beth yr ydych yn chwilio amdano. Gwnewch yn siwr eich bod
yn gyfarwydd â phlanhigion ymwthiol. Ewch i'r adran 'Rhywogaethau
Ymwthiol' a darllenwch yn ofalus. Yna rhowch gynnig ar y
daflen waith i weld a ellwch ddarganfod y 2 rhywogaeth ymwthiol estron.
Efallai y bydd eich athro hefyd yn trefnu ymweliad maes fel eich bod yn
gallu gweld y planhigion yn tyfu'n wyllt.
2. Bydd arnoch
hefyd angen peth profiad o ddefnyddio map arolwg Ordnans a rhoi cyfeirnod
grid 6 ffigwr. Chwiliwch beth yw'r cyfeirnod grid 6 ffigwr ar gyfer eich
ysgol.
|
3. Rydym yn gofyn i chi roi cynnig ar gynnal arolwg ar ardal sydd yn gylch
o tua 2 filltir o'ch ysgol. Cynlluniwch sut y byddwch yn cwmpasu'r ardal
gyfan gyda'ch athro. Bydd angen i chi ddarganfod ffordd dda o'i rhannu
a disgrifio pa ardaloedd gafodd eu cynnwys yn yr arolwg. Gwnewch
fap bras o'r ardal(oedd) yr ydych yn bwriadu eu cynnwys yn yr arolwg.
Efallai na fydd hawl gennych i fynd ar y tir i gyd. Bydd hyn yn dibynnu
ar bwy sydd piau'r tir.
4. Er ein
bod yn awgrymu eich bod yn cynnwys ardal hyd at tua 2 filltir o'ch ysgol,
os byddwch yn dod o hyd i blanhigion mewn mannau eraill, e.e. ger eich
cartref neu ar eich ffordd i'r ysgol, hoffem gael y wybodaeth hon hefyd.
[Nesaf]
|